Site Updated

06 October 2011

Cartref. Croeso. Newyddion. y Ffrindiau. Gwirfoddoli. Phase 3. Y Prosiect . Dendrochronoleg. Cysylltiadau. Links.

Dendro 9 © All Rights Reserved.  Privacy Policy | Terms of Use

GAIR GAN EIN CADEIRYDD

Mae’n bleser mawr gennyf rannu’r newyddion am ddatblygiad y prosiect â chi wrth i ni lansio Gwefan y Prosiect. Mae ein blwyddyn gyntaf yn hanes gwych o lwyddiant yn wyneb rhai amgylchiadau anodd, dirwasgiad sylweddol yn bennaf a’r gaeaf hwyaf, caletaf y gallaf ei gofio. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl o gwbl heb arweiniad, egni, a phenderfyniad ein Cyfarwyddwr. Mae hi wedi goresgyn problemau, wedi gweithio o’u cwmpas, ac mae hi hyd yn oed wedi palu oddi tanynt er mwyn cadw’r gwaith ar y trywydd cywir! Mae’n dda dweud iddi dderbyn cymorth o bob tu gan nifer o bobl sy’n rhoi gwerth ar ganlyniadau’r prosiect a’r pethau newydd niferus a ddysgwn ni am yr adeiladau hardd yng Ngogledd Orllewin Cymru oherwydd hynny. Bu ein noddwyr o gymorth ac yn ymroddedig, mae ein Hymddiriedolwyr a’n Haelodau Ymgynghorol wedi rhoi’n hael o’u hamser a’u gwybodaeth. Bu’r Comisiwn Brenhinol yn ein harwain ac yn ein mentora mewn sawl maes, fel bu perchnogion nifer o’r adeiladau a archwiliwyd. Mae byddin fechan o wirfoddolwyr wedi mentro’n frwdfrydig i sawl maes lle bu angen ymdrech. Diolchaf o waelod calon i bawb am waith a gyflawnwyd yn dda a chan ofyn i bawb ddal ati i gynnal y safon wych hon o ymroddiad gan fod llawer o waith i’w wneud eto yn y dyfodol.

 

Richard Cuthbertson, M.B.E, DL, FRSA.,

Cadeirydd y Prosiect

 

Croeso.